Ein heffaith yng Nghymru 2024–25 wrth gefnogi iechyd meddwl ar bob cam | Mind Cymru

Mind, the mental health charity Video 5 months ago

Description

Mae’r fideo hon yn rhoi trosolwg o effaith Ffederasiwn Mind yng Nghymru yn ystod 2024–25, gan ddod â gwaith Mind Cymru, y rhwydwaith Mind lleol ledled Cymru, a Mind Retail ynghyd.

Yn ystod y cyfnod hwn, cefnogwyd dros 32,000 o bobl yng Nghymru. Mae’r ffilm yn adlewyrchu’r ffaith bod profiad iechyd meddwl pawb yn wahanol, ac yn dangos sut mae Ffederasiwn Mind yng Nghymru yno i gefnogi pobl ar bob cam o’u taith iechyd meddwl.

Darperir cefnogaeth mewn cymunedau, ar-lein ac ar y ffôn, gan helpu pobl i gael cymorth amserol a thosturiol mewn ffyrdd sy’n gweithio iddyn nhw. Gyda’i gilydd, nod y gwasanaethau hyn yw sicrhau nad oes rhaid i neb yng Nghymru wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun.

Mae’r fideo hon yn rhan o restr chwarae ehangach sy’n arddangos effaith gwaith Ffederasiwn Mind yng Nghymru yn ystod 2024–25.
Gweler yr adroddiad effaith llawn yn: https://mind.turtl.co/story/adroddiad-effaith-ffederasiwn-mind-yng-nghymru-2425/page/1

***
For mental health information and signposting call Mind on 0300 123 3393 - Weekdays, 9am - 6pm

For someone to talk to about how you’re feeling:
📱 Text Shout on 85258 - https://giveusashout.org
📞 Call Samaritans on 116 123 - anytime - https://www.samaritans.org/
📞 Call Calm 0800 58 58 58 - 5pm to midnight - https://www.thecalmzone.net/
👉 Visit OCD Action https://ocdaction.org.uk/